ROH: La Bohème
Mae opera Puccini am gariad ifanc ym Mharis y 19eg ganrif yn llawn cerddoriaeth gain, gan gynnwys ariâu telynegol, corysau dathliadol er mwyn cyfleu'r Nadolig yn yr Ardal Ladinaidd yn Act II a golygfa derfynol ingol a berodd i’r cyfansoddwr ei hun grio. Mae cynhyrchiad Richard Jones yn cipio cymysgedd La bohème o gomedi, rhamant a thrasiedi i’r dim, gyda dyluniadau trawiadol gan Stewart Laing.
£16 (£15)
