WE ARE WHAT WE OVERCOME
Gan gyfuno cerddoriaeth wreiddiol fywiog gyda chomedi a straeon sy’n procio’r meddwl, mae We Are What We Overcome yn daith un dyn tuag at iechyd meddwl da, trwy gyfrwng syniad gwael iawn.
Nid oes y fath beth â llinell syth; o Lerpwl a thorso noeth Antony Gormley i sesiwn gynghori gyhoeddus iawn bob nos – taith nad yw’n cael ei hargymell gan y GIG fel y cyfryw! 2018: yn hytrach na gweld seiciatrydd, dewisodd Matt, cerddor, heb unrhyw brofiad theatrig, fynd ati i berfformio sioe heb ei hysgrifennu yn yr ŵyl gelfyddydol unigol fwyaf ar y blaned, yr Edinburgh Fringe. Nawr: gan blethu hanesion am sut y daeth yn agos i hunanladdiad a symud i ffwrdd o’r man hwnnw eto, dyma'r llwybr a gymerodd un dyn o waeledd meddyliol i siarad yn gyhoeddus.
Mae Matt yn cyflwyno straeon personol, anodd ac eclectig wedi'u cydblethu â chaneuon gwreiddiol a berfformir gan fand llawn. Does dim byd yn cael ei guddio, mae'n siarad yn uniongyrchol â'r gynulleidfa gan greu awyrgylch o ddidwylledd a dealltwriaeth. Wedi’i rhannu’n ddau hanner, mae’r sioe yn symud yn hwylus trwy gymysgedd o straeon twymgalon, hiwmor hunanddibrisiol a chaneuon gwreiddiol. Ac, mae ‘na wastad amser ar gyfer sgwrs ar ôl y sioe.
Mae'r band yn cynnwys Matt McGuinness, sy'n canu ac yn chwarae'r gitâr, Eileen Wright, y bu’n cydweithredu â Matt ers amser maith, yn chwarae sacsoffon a chwibanau, a Neil White ar y piano, gitâr ac yn canu. Yn ymuno â nhw ar gyfer y sioeau llawn mae Jo May yr offerynnwr taro gwych... Gyda'i gilydd nhw yw Matt McGuinness a'r MLC - yn cyflwyno cyfuniad o roc a rôl indi canu baledi, gydag awgrym o Motown. “Os ydych chi'n mynd i greu gofod lle rydych chi'n caniatáu i bobl siarad yn agored, byddwch yn barod am onestrwydd, poen, empathi ac emosiynau llethol.”
Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Lloegr a New Art Exchange. Rydym yn falch o weithio gyda'r Samariaid.
£15 (£14)